Os nad ydych chi wedi bod mewn opera o’r blaen, gall fod yn hawdd teimlo nad yw opera’n rhywbeth i chi. Yn Opera Canolbarth Cymru, rydym ni’n angerddol ynglŷn â dod ag opera i fwy o bobl dros y wlad. Rydym ni wedi dod â rhai o’r cwestiynau cyffredin a ofynnir amlaf at ei gilydd, ond os oes gennych chi fwy o gwestiynau, cysylltwch ar bob cyfrif!

Beth ddylid ei wisgo i opera?

Mae’r ateb yn syml; unrhyw beth yr hoffech chi ei wisgo! Nid oes angen i chi wisgo eich dillad gorau, er bod croeso i chi wneud hynny! Y gerddoriaeth sy’n bwysig, y bobl, y perfformiad a’r profiad – boed hynny’n golygu eich bod mewn jîns neu tiara, neu jîns a thiara hyd yn oed, does dim gwahaniaeth gennym ni nac unrhyw un arall.

A oes ots nad ydw i'n siarad iaith arall?

Rydym ni wedi dewis perfformio ein hoperâu ni yn y Saesneg. Er ein bod ni’n gwerthfawrogi operâu a ganir yn yr iaith y’u hysgrifennwyd, mae cyfieithiadau hyfryd ar gael ac rydym ni’n teimlo ei bod yn bwysig cysylltu gyda’n cynulleidfaoedd ar bob lefel, drwy’r llwyfannu, y symud, y gerddoriaeth a’r geiriau a genir.

Pa mor hir yw opera?

Mae’n dibynnu; rydym ni eisiau dod ag opera i fwy o bobl felly fyddwch chi byth yn edrych ar eich oriawr. Mae ein taith Llwyfannau Bach yn yr hydref yn cynnwys awr o opera a blas o daith y gwanwyn, gwledd a fydd yn para dwy awr i gyd. Bydd cynhyrchiad y gwanwyn ychydig yn hirach, dros ddwy awr yn gyffredinol, ond mae egwyl i gael hufen ia yn y canol – ac weithiau, fel yn Eugene Onegin, ceir dwy egwyl er mwyn cael eich gwynt atoch.

Fydda i'n deall beth sy'n digwydd?

Byddwch, efallai na fyddwch chi’n deall popeth drwy’r amser, ond y rhan fwyaf o’r amser, byddwch. Byddwn yn rhoi crynodeb o’r stori ichi yn ein rhaglenni er mwyn i chi gael syniad o’r stori cyn i’r sioe gychwyn, ond mae’r perfformiad ar y llwyfan wedi ei gynllunio i rannu’r stori gyda chi. Mae’r rhan fwyaf o operâu’n ymwneud â thema cariad, trasiedi, angerdd, antur neu hud ac fe fyddwch yn ymgolli yn y stori’n fuan iawn. Gan ein bod yn canu yn y Saesneg hefyd, bydd y geiriau’n glir.

A yw opera'n gorffen gyda thrasiedi bob amser?

Dim o gwbl, mae opera’n ffurf ar adloniant felly nid yw popeth yn drist a thywyll. Er fod rhai llinynnau storïol trasig a byddai llawer o’r plotiau ar goll hebddynt (fel mewn ffilmiau modern hyd yn oed), ceir llawer o themâu mewn opera, gan gynnwys cariad, angerdd, dyfod i oed, twyll, pŵer, myth a chwedl.

Pam y dylwn i fynd i weld opera?

Am fod opera’n cael ei anwybyddu mor aml a’i weld fel rhywbeth nad yw’n apelio at bawb. Rydym ni eisiau chwalu’r rhwystr hwnnw a dod ag opera i bawb. Y profiad sy’n bwysig, nid y stori’n unig – noson allan sy’n cynnwys cerddoriaeth, elfennau theatraidd, golau, cast a chwaraewyr talentog. Mae cymuned wych yn y byd opera hefyd. Fel unrhyw fath o adloniant, mae’n bosibl nad yw’r union beth i chi, neu efallai nad yw math penodol o opera’n apelio atoch chi, ond rydym ni’n credu bod yn werth i chi roi cyfle iddo – hyd yn oed os yw’n ddim mwy na rhywbeth i’w groesi oddi ar y rhestr fwced!

Pam fod pobl wrth eu bodd gydag opera?

Am yr un rheswm bod pobl wrth eu bodd gydag unrhyw ffurf ar gelfyddyd, po ddyfnaf yr ewch chi, gorau fydd y trysor. Mae opera’n gyfuniad cymhleth o wahanol gelfyddyd yn dod at ei gilydd – o gerddorion medrus a chantorion proffesiynol i dechnegwyr golau galluog, cynllunwyr llwyfan a llawer mwy. Daw popeth at ei gilydd ar un noson, cynhyrchiad byw serennog sydd wedi ei gynllunio i gyffroi’r emosiynau a gwneud i chi feddwl.

Mae opera’n cynnwys rhai o’r alawon mwyaf mawreddog, atgofus a phwerus ac mae’r llinynnau storïol yn gyfareddol. Maent yn aml yn goroesi cannoedd o flynyddoedd o gael eu dehongli gan wahanol gyfarwyddwyr. Hyd yn oed os ydych chi wedi gweld opera benodol sawl gwaith, mae bob fersiwn yn wahanol ar y llwyfan.

Cael mwy o wybodaeth

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.