Derbyniodd y soprano, Llio Evans, ei hyfforddiant yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yn Academi Llais Ryngwladol Cymru. Mae hi’n gyn-aelod o Opera Ieuenctid Prydain a bu hefyd yn Artist Ifanc Alvarez gyda Garsington Opera lle derbyniodd wobr Leonard Ingrams.
Mae ei rhannau diweddaraf yn cynnwys Celia Iolanthe, gyda English National Opera, Iris Semele gyda Garsington Opera, Zerlina Don Giovanni gyda Longborough Festival Opera, The Little One ym mhremier y DU o The Golden Dragon (Peter Eötvös) gyda Music Theatre Wales, a Barbe ar gyfer recordiad stiwdio The Beauty Stone (Arthur Sullivan) ar label Chandos.
Y tymor hwn mi fydd Llio yn dychwelyd i Longborough Festival Opera i ganu Melanto yn The Return of Ulysses gan Monteverdi ac yn ymuno â chast cynhyrchiad Charles Court Opera o Iolanthe fel Phyllis.
Only a few months ago we thought Mid Wales Opera was finished. Now, thanks to a funding lifeline from Powys County Council, we are within touching distance of having a sustainable plan to keep on producing live and local opera across Wales for at least three years.