Recriwtio

Dewch i ymuno â'n tîm!

Angen Rheolwyr Llwyfan Cynorthwyol

Opera Canolbarth Cymru – taith Macbeth Verdi, Dydd Sul 25ain o Chwefror  – Dydd Sadwrn 23ain Mawrth 2024

I ymuno â thîm o 6 gyda rheolwr cynhyrchu sy’n ail-oleuo, rheolwr llwyfan, 2 reolwr llwyfan cynorthwyol, goruchwyliwr gwisgoedd a gyrrwr lori sy’n helpu gyda chyrraedd a gadael. Nid yw aelodau’n tîm yn gweithio mewn un adran yn unig a bydd tasgau’n cael eu rhannu yn ôl sgiliau a gofynion y sioe. Mae’n ofynnol i’r holl staff rheoli llwyfan gynorthwyo yn ôl yr angen mewn unrhyw adran gan gynnwys gwisgoedd, set, criwio llwyfan, propiau a goleuo yn ôl yr angen. Darperir hyfforddiant os bydd angen.

Dyddiadau Allweddol:
Dydd Sul Chwefror 25ain i ddydd Sul Mawrth 3ydd gan gynnwys cyfnod cynhyrchu a’r perfformiad cyntaf yn Hafren, Y Drenewydd, Powys, yn ogystal ag 8 dyddiad ym mis Mawrth ar daith yng Nghymru a Henffordd rhwng Mawrth y 7ed a’r 23ain. Mae’r sioeau yn cyrraedd ac yn gadael pob lleoliad o fewn un diwrnod.

Ceir manylion am y cwmni, y cast a dyddiadau’r teithiau ac ati ar yma

Darperir costau teithio i’r Drenewydd a llety yno dros y cyfnod cynhyrchu ac ar gyfer pob sioe unigol os oes angen. Bydd costau teithio/llety eraill yn cael eu trafod yn dibynnu ar leoliad yr unigolyn. Gall hyn fod yn fwy addas i unigolyn sy’n byw yng Nghymru.

Rydym yn addo sicrhau cydraddoldeb a thegwch i bawb a gyflogwn ac ni fyddwn yn gwahaniaethu ar sail rhyw nac ailbennu rhywedd, statws priodasol na mamol, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd nac oedran.

Y ffi ar gyfer cyfnod cynhyrchu a 9 dyddiad perfformio yw £2616.

I wneud cais anfonwch CV a llythyr eglurhaol erbyn 3 Chwefror 2024, at Bridget yn   tech@midwalesopera.co.uk

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.