
Mae’r fezzo-soprano Georgia Mae Bishop yn dod o Jersey ac wedi astudio yn Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall. Mae ei rhannau’n cynnwys Ulrica Un Ballo in Maschera (Opera Holland Park), Il Pastore Orfeo (Garsington Opera), Flosshilde The RhineGold (Cwmni Opera Birmingham), Brenhines wrth gefn Iolanthe (English National Opera), Dame Hannah wrth gefn Ruddigore (Opera North) a Thrydedd Menyw The Magic Flute (West Green House Opera). Ysgrifennodd Georgia y libreto ar gyfer Held in the Tide, a gomisiynwyd gan ArtHouse Jersey (Jersey Opera House), derbyniodd adolygiadau gwych am ei chabaret unigol Witches, Britches and B*tches yn Brighton Fringe, a threuliodd gyfnod preswyl yn Brighton Dome gyda Charlotte Marlow yn datblygu ymarfer adrodd straeon cydweithredol.