“…a profound understanding of what works, musically and dramatically, and an unshakable commitment to deliver it to the highest standard”
Richard Bratby, The Spectator – darllenwch adolydiad llawn
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Darllenwch mwy…
Mae Opera Canolbarth Cymru’n saernïo ac yn perfformio cynyrchiadau cyflawn a chartrefol mewn lleoliadau ledled Cymru a thu hwnt. Rydym yn gweld gwerth anferthol i opera ac yn mynd â chynyrchiadau sy’n ysbrydoli i theatrau a mannau lle mae’r cyfle i weld opera fyw yn brin a lle gellir cyrraedd at gynulleidfaoedd newydd. Rydym yn ymroddedig i feithrin, herio ac annog talent ifanc a ffres, gydag o leiaf 50% o gantorion y cwmni o dan 30 oed neu wedi gorffen eu haddysg o fewn y 4 mlynedd ddiwethaf.
Llwyodraeth y DU, Cyngor Sir Powys, Ymddiriedolaeth Celfyddydau Colwinston, Elusen Gwendoline a Margaret Davies, Sefydliad Millichope ac llawer o roddwyr unigol – diolch yn fawr!