Mae Cyfeillion Opera Canolbarth Cymru’n tanategu gwreiddiau cymunedol OCC. Drwy aelodaeth, cyfamodau, cyfraniadau a digwyddiadau i godi arian, mae’r Ffrindiau’n gwneud cyfraniad sylweddol i lwyddiant parhaol y cwmni.
Helpwch ni.
Boed eich cyfraniad yn fawr neu’n fach, rydym yn gwerthfawrogi unrhyw gefnogaeth a bydd yn mynd yn uniongyrchol tuag at waith ein cwmni, dod ag opera i’r gymuned. Mae OCC yn cynnig amrywiaeth o gynlluniau aelodaeth o £15 am aelodaeth sengl. Bydd aelodau’n derbyn diweddariadau rheolaidd am ein gwaith a chael gwybod ymlaen llaw am ddigwyddiadau’r Ffrindiau a gynhelir y tu allan i’n prif raglen deithiol.
Ffrind £15 (ar y cyd £25)
Aelodau £50
Os hoffech chi gyfrannu ‘chydig mwy, beth am i chi ymuno â chynllun ein Noddwyr. Yn ogystal â’r uchod, yn cychwyn o ddim ond £100 bydd noddwyr yn cael gwahoddiadau arbennig ac unigryw lle byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan uniongyrchol o waith y cwmni. Noddwr arian £100 Noddwr Aur £250 Cymwynaswr £500+
Mae OCC yn chwilio’n weithredol am nawdd a chefnogaeth fel rhan o’n hymgyrch godi arian barhaus er mwyn cynorthwyo gwaith y cwmni, un ai drwy gwmnïau neu gymwynaswyr preifat.
Gall OCC deilwra pecynnau arbennig i gwmniau sy’n dymuno cynnig cefnogaeth fwy sylweddol. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’n Rheolwr Cyffredinol ar admin@midwalesopera.co.uk
Neu ysgrifennwch i: Opera Canolbarth Cymru, Bryn Wgan, Caersws, Powys SY17 5QU
Only a few months ago we thought Mid Wales Opera was finished. Now, thanks to a funding lifeline from Powys County Council, we are within touching distance of having a sustainable plan to keep on producing live and local opera across Wales for at least three years.