
Astudiodd Joseph ym Mhrifysgol Caeredin a’r National Opera Studio. Mae ei ymddangosiadau diweddar niferus yn cynnwys Ramiro La Cenerentola (Opéra de Québec, ETO), Almaviva Il barbiere di Siviglia (Gŵyl Longborough); NemorinoL’elisir d’amore (ENO), Aufidio Lucio Silla (Salzburg Landestheater), Tsar The Snow Maiden(ETO), Mordecai Esther (Hallé, Neuadd Wigmore), Alessandro Il re pastore a Thrysor Eidalaidd Viva la Diva (Gŵyl Buxton), Orpheus in the Underworld (IF Opera) a Toby Robinson Crusoe (West Green House Opera). Yn ddiweddar, canodd Ramiro La Cenerentola yn Ne Affrica ac ar draws y Deyrnas Unedig (Diva Opera) a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i gwmni Opera Birmingham yn RE-WIRE. Yn flaenorol ar gyfer OCC: Arweinydd y Gwerinwyr Eugene Onegin.