
Mae India yn fezzo-soprano uchel ac wedi graddio yn ddiweddar o Ysgol Gerdd Frenhinol Birmingham, lle’r enillodd radd Meistr mewn Perfformiad Lleisiol ac Operatig. Mae hi wedi perfformio mewn dosbarthiadau meistr gydag artistiaid o fri gan gynnwys Roderick Williams, rhan o raglen y National Opera Studio Academy, a chorws yn Grange Park Opera. Ochr yn ochr â’i hastudiaethau, gweithiodd India i gefnogi ac addysgu plant a phobl ifanc o gefndiroedd amrywiol. Mae hi’n frwd ynglŷn â chynyddu mynediad at gerddoriaeth glasurol ac opera, ysbrydoli pobl ifanc i ymgysylltu â’r celfyddydau, a dod â chyfleoedd i greu cerddoriaeth i gymunedau lle mae cyfleoedd i gael profiadau diwylliannol yn brin.