Kirsty McLean

soprano

Bywgraffiad

Graddiodd Kirsty McLean o Trinity Laban ac Ysgol Gerdd a Drama Guildhall. Mae hi’n Artist Ifanc Britten-Pears ac yn Artist Ifanc Wigmore Hall. Eleni gwnaeth Kirsty ei hymddangosiad cyntaf yn y Tŷ Opera Brenhinol fel Jana yn opera Janáček Jenůfa dan arweiniad Jakub Hrůša. Mae ei rolau eraill ar gyfer yr Opera Brenhinol yn cynnwys Trio yn Trouble in Tahiti a Quartet yn A Quiet Place ym mherfformiad dwbl Bernstein yn Theatr Linbury a gyfarwyddwyd gan Oliver Mears, dan arweiniad Nicholas Chalmers, a bu’n ddirprwy actores fel cymeriad Markéta yn Innocence gan Kaija Sariaaho . Mae hi hefyd yn mwynhau gyrfa amrywiol fel artist sy’n cyfuno gwahanol ddylanwadau cerddorol, gan berfformio ledled y byd ar longau mawrion moethus i gyrchfannau preifat yn y Maldives.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.