
Graddiodd Chris o’r Coleg Cerdd Brenhinol (RCM) yn 2010 ac ers hynny mae wedi bod yn perfformio gyda cherddorfeydd, grwpiau siambr, cwmnïau opera a chynyrchiadau theatr ledled y DU yn ogystal ag yn y stiwdio recordio ac o bryd i’w gilydd fel unawdydd. Mae wedi perfformio ail goncerto Weber yng Nghanolfan Gelfyddydau Shanghai Oriental a choncerto Mozart yn St Giles-in-the-Fields, Llundain, y ddau gyda’r London Arte Chamber Orchestra. Mae ymddangosiadau siambr diweddar yn cynnwys perfformiadau ledled Cymru gydag Ensemble Cymru, Pumawd Brahms yn St James Piccadilly gydag Orpheus Sinfonia a Prokofiev Hebrew Themes yng Ngŵyl Chichester. Mae’n dilyn gyrfa gerddorfaol llawrydd ac mae’n byw yn Llundain.