Angharad Lyddon

mezzo soprano

Bywgraffiad

Mae uchafbwyntiau diweddar y Feezzo Soprano Angharad Lyddon yn cynnwys Mary The Flying Dutchman i Opera Holland Park, Third Lady The Magic Flute (Nevill Holt Festival), Flosshilde Gotterdammerung (Royal Festival Hall) gyda’r London Philharmonic Orchestra, dan arweiniad Vladimir Jurowski, ei pherfformiad cyntaf gydag Opera Cenedlaethol Cymru fel Branwen, Blaze of Glory, a Messiah Handel yn y Royal Albert Hall. Mae uchafbwyntiau 25/26 yn cynnwys dychwelyd i Opera Cenedlaethol Cymru yn Blaze of Glory! ac ailberfformio Mary The Flying Dutchman ochr yn ochr â Syr Bryn Terfel ar gyfer Opera de Monte-Carlo.

 

Cynrychiolodd Angharad Gymru yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y BBC yn 2019 a chyrhaeddodd rownd derfynol y Song Prize. 

 

Mae hi wed graddio o’r Academi Gerdd Frenhinol, yn Artist Samling ac yn gyn Artist Ifanc Jerwood i Glyndebourne.

Cadw Opera Canolbarth Cymru ar daith

Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…

You have Successfully Subscribed!