Roedd y soprano Erin Rossington yn Artist Cyswllt diweddar gydag Opera Cenedlaethol Cymru lle perfformiodd yn Suor Angelica a Contessa yn Le Nozze di Figaro. Y tymor diwethaf canodd ran Micaëla yn La Tragedié de Carmen ar gyfer Gŵyl Ryngwladol Buxton a bydd yn Micaëla wrth gefn ar gyfer English National Opera yn yr Hydref eleni. Fe’i gwelir yn cystadlu’n rheolaidd, enillodd wobr ryngwladol Llais y Dyfodol yn Eisteddfod Llangollen a Gwobr Goffa Elizabeth Harwood. Cyrhaeddodd Erin rownd derfynol cystadleuaeth Vincerò yn Verona a rownd gynderfynol Cystadleuaeth Opera Paris.
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…