
Astudiodd Nicki’r sielo yn yr Academi Gerdd Frenhinol a Trinity College of Music ac yna bu’n dysgu yn Ysgol Westminster, Llundain a gweithiodd fel sielydd llawrydd yn Llundain. Mae hi wedi byw yng Ngogledd Cymru ers 2002 ac yn chwarae’r prif sielo ar gyfer Ensemble Cymru, Cerddorfa Siambr Cymru, Opera Canolbarth Cymru, Opra Cymru, Cerddorfa Gogledd Cymru a Chymdeithas Gorawl Aberystwyth, ac mae galw amdani ar gyfer cyngherddau llawrydd eraill. Mae Nicki yn dysgu yn y Junior Royal Northern College ym Manceinion, bob gallu ac oedran yn breifat, ym Mhrifysgol Bangor ac yng Nghanolfan Gerdd William Mathias, lle mae hi hefyd yn sefydlu ac yn arwain y gerddorfa gymunedol. Mae Nicki yn mwynhau cerdded mynyddoedd, a thyfu llysiau.