Nicola Pearce

Bywgraffiad

Astudiodd Nicki’r sielo yn yr Academi Gerdd Frenhinol a’r Trinity College of Music ac yna bu’n dysgu yn Ysgol Westminster, Llundain a gweithiodd fel sielydd llawrydd. Mae’n byw yng Ngogledd Cymru ac yn chwarae prif sielo Ensemble Cymru, Cerddorfa Siambr Cymru, Opera Canolbarth Cymru, Opra Cymru, Cerddorfa Gogledd Cymru a Chymdeithas Gorawl Aberystwyth. Mae Nicki yn dysgu pob lefel ac oedran yn breifat, ym Mhrifysgol Bangor ac yng Nghanolfan Gerdd William Mathias, lle mae hi hefyd yn arwain y gerddorfa gymunedol ac yn rhedeg yr hyfforddiant ar gerddoriaeth siambr. Mae Nicki yn byw gyda’i gŵr, dau fab a dau gi ac yn mwynhau cerdded mynyddoedd a thyfu llysiau.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.