Amdanom ni

Sefydlwyd Opera Canolbarth Cymru ym 1988 gan Barbara McGuire a Keith Darlington a thyfodd yn gyflym i fod yn un o brif gwmnïau opera teithiol canolig ei faint y Deyrnas Unedig gyda pherfformiadau ledled Cymru a Lloegr.

Yn dilyn penodi Richard Studer a Jonathan Lyness yn Gyfarwyddwyr Artistig yn 2017, mae OCC wedi creu glasbrint ar gyfer opera deithiol ar draws ardaloedd gwledig, gyda dau gynhyrchiad opera wedi’u llwyfannu’n llawn ar daith bob blwyddyn ledled Cymru a’r Gororau, cynyrchiadau mewn cymunedau ac ysgolion, gweithdai addysgol, cyngherddau a datganiadau, yn ogystal â chydweithrediad uchel ei glod gydag Ensemble Cymru.

Mae Opera Canolbarth Cymru yn chwarae rhan hanfodol yn sector celfyddydau perfformio Cymru. Nid oes yr un cwmni arall wedi cynhyrchu corff mor amrywiol o waith operatig ar draws cymaint o’r wlad yn rheolaidd. Yn ein holl waith, gan gynnwys ein hymgysylltiad sylweddol ag ysgolion cynradd ac uwchradd, ein nod yw meithrin cynulleidfaoedd y dyfodol, a dadrinio rhywbeth y camgymerir ei fod yn anodd, gan ddangos y gall opera, gyda’i straeon gwych a’i cherddoriaeth ysblennydd, fod yn brofiad ystyrlon, dyrchafol a chadarnhaol i bawb, o bob oedran a chefndir. 

Caiff y genhadaeth hon ei grymusp gan y ffaith ein bod o fewn cyrraedd lleoliadau sy’n aml yn cael eu tanbrisio ac sy’n ganolog i rai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, sy’n golygu bod opera fyw yn cael ei chyflwyno mewn lleoedd na fyddai fel arall yn darparu cerddoriaeth ac opera fyw.

Mae pob un o’n cynyrchiadau yn cael eu canu yn Saesneg, sy’n golygu bod 100% o’r gynulleidfa yn deall y testun ac yn dilyn y straeon, gan ddileu un o’r rhwystrau a gysylltir yn aml ag opera.

Ers blynyddoedd lawer mae OCC wedi cael cefnogaeth lawn gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Fodd bynnag, ar ddiwedd mis Mawrth 2024, cafodd cefnogaeth graidd CCC i’r cwmni ei dynnu’n ôl yn gyfan gwbl. Bu’n rhaid i’r cwmni ailystyried ei allu a swm ei allbwn er mwyn gosod ei hun ar sylfaen ariannol cynaliadwy. Wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol, mae’r cwmni’n parhau i gynnig profiad opera fyw cofiadwy mewn cymunedau ledled Cymru a thu hwnt, yn cynnig cyfleoedd hanfodol i artistiaid ifanc ddatblygu eu gyrfaoedd proffesiynol a chyflogi ystod eang o artistiaid sy’n dod o Gymru ac yn byw yng Nghymru.

Ein Dyfodol

Cefnogir cynaliadwyedd OCC yn y dyfodol gan gyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys (yn 2024), Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, Ymddiriedolaeth Laidlaw Opera ac Ymddiriedolaeth Gwendoline a Margaret Davies, yn ogystal â rhoddion unigol yn ein digwyddiadau byw a thrwy ein gwefan. Mae gennym grŵp bach ond nerthol o gefnogwyr rheolaidd sy’n cyfrannu at Gylch Noddwyr a Chyfeillion Opera Canolbarth Cymru. 

I gefnogi’r gwaith a wnawn, mae croeso i chi gyfrannu heddiw, ymuno â’n cynllun Cyfeillion, neu wirfoddoli yn un o’n digwyddiadau sydd ar y gweill.

Gallwch hefyd gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr er mwyn cadw mewn cysylltiad a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gweithgareddau.

I gael mwy o fanylion amdanom ni fel tîm, ewch i dudalennau’r staff a’r bwrdd.

Beatrice a Benedict 2023

⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️

Michael White, Grammophone / Opera Now

“Though small in scale, Mid Wales Opera’s production of Berlioz’s little-known opera brought great finesse […] It was brilliant: clever, sharp, and done (in English) with finesse”

gramophone.co.uk – darllenwch yr adolygiad llawn

Hansel a Gretel 2023

David Truslove, Opera Today

“this show will charm and captivate…Mid Wales Opera has done it again and delivered a corker of a production”

operatoday.com – darllenwch yr adolygiad llawn

Macbeth, 2024

⭐️⭐️⭐️⭐️

Rian Evans, The Guardian

“There is a wonderful sense of a defiant upholding of MWO values by artistic director/designer Richard Studer and music director Jonathan Lyness. It is as good a production as any in their 7-year tenure.”

theguardian.com – darllenwch yr adolygiad llawn

Macbeth, 2024

⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️

Clare Stevens, Opera Now

“This is an opera that stands or falls more than most on the quality of the two main principals, and in Bouton and the Welsh soprano Mari Wyn Williams who sang Lady Macbeth, MWO struck gold”

gramophone.co.uk – darllenwch yr adolygiad llawn


Fundraising Regulator badge with validation link

Cadw Opera Canolbarth Cymru ar daith

Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…

You have Successfully Subscribed!