Cyngerdd Carol Nadoligaidd
gydag Opera Canolbarth Cymru

Ymunwch â Chyfeillion Opera Canolbarth Cymru am brynhawn a noswaith o gerddoriaeth Nadoligaidd yn Eglwys Blwyf Sant Nicolas yn Nhrefaldwyn.

Ymunwch â’r gweithdy am 2pm dan arweiniad Cyfarwyddwr Cerddorol OCC Jonathan Lyness er mwyn dysgu rhywfaint o ganeuon Nadolig i’w perfformio yn y cyngerdd gyda’r nos.

Neu dewch i’r cyngerdd am 6pm a mwynhau noswaith Nadoligaidd o gerddoriaeth.

£6 i ddod i’r cyngerdd a £10 i ddod i’r gweithdy a’r cyngerdd.

Tocynnau ar gael i’w prynu wrth y drws (arian parod/siec yn unig) ond cadwch le ymlaen llaw er mwyn inni wybod faint o bobl i’w disgwyl drwy e-bostio friends@midwalesopera.co.uk neu ffonio 01686 614563.

 

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.