Trefnwyd ein cyngherddau, a gynhelir yn rhad ac am ddim ar Ragfyr 12 ac 19, gyda chymorth canwr o Fachynlleth, Robin Lyn Evans, sy’n perfformio ar y ddau ddiwrnod. Bydd nifer cyfyngedig o docynnau ar gael ac mae’n rhaid eu harchebu ymlaen llaw drwy e-bostio admin@midwalesopera.co.uk . Cynhelir tri perfformiad 40 munud ar y ddau ddiwrnod am 11am, 12.30pm a 2pm.
Bydd ein cynulleidfaoedd yn cadw pellter cymdeithasol o fewn swigod eu haelwydydd a bydd pob grŵp yn cael corlan ddefaid neu wartheg i sefyll ynddi. Tynnir y drysau oddi ar y corlannau er mwyn lleihau cyswllt ac mae croeso i chi ddod â sedd gyda chi os hoffech chi eistedd.
Yn fwyaf pwysig, bydd pob cyngerdd yn cynnwys pedwar canwr a rhaglen fydd yn amrywio o garolau i glasuron y Nadolig fel Let it Snow a White Christmas. Ein Cyfarwyddwr Cerdd Jonathan Lyness fydd ar y piano, a byddwn yn gwneud casgliad tuag at waith Opera Canolbarth Cymru.
Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw drwy e-bostio admin@midwalesopera.co.uk neu ffoniwch 07764 171259.
Llun gan Burkay Canatar o Pexels.com
MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi