Alanna Pennar-Macfarlane

Bywgraffiad

Baswnydd a Chontrabaswnydd yw Alanna, yn wreiddiol o Swydd Clackmannan yn yr Alban, a bellach yn byw yng Nghaerdydd. Dechreuodd Alanna chwarae’r basŵn yn 15 oed ar ôl chwarae’r clarinét am flynyddoedd lawer. Ar ôl dod o hyd i’r offeryn, cafodd glyweliad ar gyfer rhaglen ieuenctid Ysgol Gerddoriaeth Frenhinol yr Alban a mynychodd yr ysgol am ddwy flynedd. Enillodd ei gradd israddedig yn yr Academi Gerdd Frenhinol ac yna astudiodd ar gyfer ei gradd uwchraddedig yn y Coleg Cerdd Brenhinol lle graddiodd gyda rhagoriaeth. Mae Alanna wedi bod yn ddigon ffodus i chwarae mewn lleoliadau ym mhedwar ban byd ac wedi cael y cyfle i weithio gyda cherddorfeydd proffesiynol gan gynnwys: Cerddorfa’r Tŷ Opera Brenhinol, Cerddorfa Symffoni Bournemouth, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol a Britten Sinfonia. 

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.