Alexandra Callanan

y basŵn

Biography

Graddiodd Alex o’r Coleg Cerdd Brenhinol lle enillodd Wobr Basŵn Fanny Hughes ddwy flynedd yn olynol, am chwarae’r Prif Fasŵn yng ngherddorfeydd ac ensembles y coleg. Mae hi wedi chwarae’n rheolaidd gyda Cherddorfa Symffoni’r BBC, Cerddorfa Ffilharmonig y BBC, Cerddorfa Gyngerdd y BBC, CBSO, Cerddorfa Symffoni Genedlaethol RTE, Cerddorfa Ffilharmonig Brighton, London Opera Players, London Concertante, Longborough Festival Opera ac Opera Project. Mae hi wedi cyflwyno llawer o ddatganiadau a sawl un o waith newydd ledled y DU gyda’i thriawd, The Thorne Trio. Hon yw ei thrydedd taith gyda LlwyfannauLlai Opera Canolbarth Cymru. Mae hi’n Athro yn y Coleg Cerdd Brenhinol.