Alexandra Callanan

Biography

Graddiodd Alex o’r Coleg Cerdd Brenhinol lle enillodd Wobr Basŵn Fanny Hughes ddwy flynedd yn olynol a bu’n chwarae’r Prif Fasŵn yng ngherddorfeydd ac ensembles y coleg. Mae hi wedi chwarae’n rheolaidd gyda Symffoni’r BBC, Cerddorfa Ffilharmonig y BBC, Cyngerdd y BBC, CBSO, Symffoni Genedlaethol RTE, Cerddorfa Ffilharmonig Brighton, London Opera Players, London Concertante, Longborough Festival Opera ac Opera Project. Mae hi wedi cyflwyno nifer o berfformiadau a phremiers o waith newydd ledled Prydain gyda’i thriawd The Thorne Trio, ac wedi chwarae yn nhair taith flaenorol LlwyfannauLlai OCC o The Bear, L’heure espagnole a Mrs Peachum’s Guide to Love and Marriage. Mae hi’n Athro yn y Coleg Cerdd Brenhinol.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.