Alys Mererid Roberts

Bachgen Capel / Bugail

Bywgraffiad

Daw’r soprano Gymreig Alys Mererid Roberts o Eifionydd a graddiodd o’r Academi Opera Frenhinol yn ddiweddar. Cychwynnodd ganu mewn cystadlaethau Cerdd Dant ac Alaw Werin mewn eisteddfodau lleol ledled Cymru ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Durham. Ymysg ei gwaith proffesiynol blaenorol mae rhannau Annina La Traviata, Tweedle Dee Alice’s Adventures in Wonderland a Tiny Tim / Ffan A Christmas Carol (Opera Holland Park), Yum Yum The Mikado (Charles Court Opera), Bastienne Bastien und Bastienne a Sandmann / Taumann Hänsel und Gretel (Pop Up Opera), Semichorus Gair ar Gnawd ac Awen Hedd Wyn (Opera Cenedlaethol Cymru) ac Ail Ysbryd The Magic Flute (Opera Canolbarth Cymru). Y tu allan i’r byd opera, mae Alys wrth ei bodd gyda chŵn ac yn mwynhau darllen a gwneud printiau leino.