Mezzo-soprano o Orllewin Cymru yw Beca Davies, a graddiodd yn ddiweddar o Ysgol Gerddoriaeth Frenhinol yr Alban. Yn ddiweddar creodd Beca rôl Meinir yn y perfformiad cyntaf o Cyfrinach y Brenin gan Mared Emlyn ar gyfer OPRA Cymru. Mae ei phrosiectau cerddorol newydd eraill yn cynnwys Miss Bourne/Julia Price yn The Ghost Train gan Paul Crabtree (perfformiad cyntaf ym Mhrydain, Gŵyl Ryngwladol St Magnus) a’r brif ran yn Helena Marco Galvani (perfformiad cyntaf yn unman, Gŵyl Tête-à-Tête). Ymhlith ei rhannau nodedig eraill mae Mary Ann yn The Boatswain’s Mate Ethel Smyth (Spectra Ensemble); Lola Cavalleria rusticana (Edinburgh Studio Opera); Cherubino Le nozze di Figaro; Bridget Booth yn The Crucible Robert Ward (Berlin Opera Academy). Mae Beca yn edrych ymlaen yn fawr at berfformio gydag Opera Canolbarth Cymru yn y cynhyrchiad hwn o Hansel a Gretel.
Only a few months ago we thought Mid Wales Opera was finished. Now, thanks to a funding lifeline from Powys County Council, we are within touching distance of having a sustainable plan to keep on producing live and local opera across Wales for at least three years.