Fflur Wyn

soprano

Biography

A hithau wedi cael canmoliaeth eang am ei pherfformiadau ar y llwyfan operatig yn ac mewn cyngherddau, mae’r soprano Gymreig, Fflur Wyn yn prysur sefydlu ei hun fel un o gantorion ifanc blaenllaw y wlad. Fe’i hetholwyd yn Gydymaith i Academi Frenhinol Cerddoriaeth (ARAM) i gydnabod ei chyfraniad nodedig i’r proffesiwn cerddoriaeth.

Mae ei huchafbwyntiau operatig a chyngherddol yn cynnwys Jemmy Guillaume Tell, Iphis Jephtha,  a Dorinda Orlando (Opera Cenedlaethol Cymru); Vivetta L’Arlesiana, Pamina The Magic Flute, a rhan y teitl yn Lakmé (Opera Holland Park); La Plus Jeune Fille Au Monde (La Monnaie/Opéra Comique); Susanna The Marriage of Figaro, Sophie Der Rosenkavalier, Sophie Werther, Marzelline Fidelio, Gretel Hansel & Gretel, a Waldvogel Siegfried (Opera North); Esilena Rodrigo a The Choice of Hercules (Göttingen International Handel Festival);  yr Athrawes The Turn of the Screw (Mexico City); Dynes Gwallt Melyn Thanks to my Eyes (Aix en Provence/La Monnaie); Merch How the Whale Became (y Tŷ Opera Brenhinol); Theodora Handel (RIAS Kammerchor, Berlin); Christmas Oratorio Bach (Cerddorfa Ffilharmonig Copenhagen); St Matthew Passion (Dunedin Consort, Neuadd Wigmore ac Orchestra of the Age of Enlightenment); Exsultate Jubilate Mozart (y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol); Ode for St Cecilia’s Day Handel (Dunedin Consort, a The English Concert dan arweiniad Harry Bicket); 3rd Symphony Gorecki (Cerddorfa Opera North a Richard Farnes) a chyngherddau New Year Viennese Gala (Bournemouth Symphony Orchestra a Thomas Rösner).

Bydd uchafbwyntiau’r dyfodol yn cynnwys rhan Euridice yn Orfeo ed Euridice Gluck a Morgana yn Alcina Handel gydag Opera North, a Lucia yn The Rape of Lucretia Britten yn y Potsdam Winteroper.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.