Galina Averina

Susanna

Bywgraffiad

Ymysg gwaith diweddar Galina Averina mae Atalanta yn Serse, Iphise yn Dardanus, Rameau, Ilia yn Idomeneo, Lauretta yn Gianni Schicchi i’r English Touring Opera, Partenope yn Partenope i Iford Arts, Adele yn Die Fledermaus i Diva Opera.

Perfformiodd yn ei hopera ryngwladol gyntaf yn 2013 fel Despina yn Così fan tutte yng Ngŵyl Haf Dubrovnik. Ym mis Medi 2014, ymunodd Galina ag Ysgol Opera Ryngwladol y Coleg Cerdd Brenhinol, lle canodd Pamina yn Die Zauberflöte, Calisto yn Giove in Argo, Adele yn Die Fledermaus, a Dalinda yn Ariodante Handel.

Yn 2015 enillodd Sextio Premio a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth fawreddog Francisco Viñas yn y Gran Teatre del Liceu ym Marcelona. Enillodd Gystadleuaeth Cantorion Ifanc Opera Glasurol Bampton yn 2015 a’r 2il wobr yng Nghystadleuaeth Handel 2016 yn Llundain.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.