Mae’r soprano Brydeinig-Wyddelig, Hazel Neighbour, wedi graddio’n ddiweddar o stiwdio opera’r Royal Academy of Music. Mae hi wedi gweithio i gwmnïau gan gynnwys Glyndebourne, Wiener Festspiele, Opera Canolbarth Cymru a Gŵyl Grimeborn ac mae’n gyn-aelod o Opera Ieuenctid Prydain, Gŵyl Ryngwladol Dartington, a’r Franz-Schubert-Institut. Mae ei rhannau operatig yn cynnwys Contessa Almaviva Le nozze di Figaro, Micaëla Carmen, Athrawes Gartref The Turn of the Screw a Gretel Hänsel und Gretel. Mae Hazel yn dehongli cerddoriaeth gyfoes yn angerddol, a hi greodd rôl ATALYA yn The Butt, wedi’i addasu o lyfr enwog Will Self, yng ngŵyl gerddoriaeth gyfoes Musiktheatertage Wien yn Awstria.
Only a few months ago we thought Mid Wales Opera was finished. Now, thanks to a funding lifeline from Powys County Council, we are within touching distance of having a sustainable plan to keep on producing live and local opera across Wales for at least three years.