Jonathan Lyness

Arweinydd

Bywgraffiad

Ganed Jonathan yn Llundain ac astudiodd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bryste lle’r enillodd ysgoloriaethau gelfyddyd israddedig y brifysgol ac ôl-raddedig yr Academi Brydeinig. Aeth ymlaen yn ddiweddarach i astudio arweinyddiaeth gyda George Hurst. Ef yw Cyfarwyddwr Cerdd Opera Project, a gyd-sefydlwyd ganddo yn 1993, ac mae wedi arwain llawer o’r repertoire safonol gyda’r cwmni hwnnw. Mae’n un o Artistiaid Cyswllt Longborough Festival Opera, lle mae wedi arwain cylch y cynhyrchiad mawr ei fri o Janáček: Jenůfa, Katya Kabanová a The Cunning Little Vixen. Hefyd i: A Midsummer Night’s Dream, Tosca, La bohème, Falstaff, Madama Butterfly, Albert Herring, Rigoletto, The Barber of Seville ac Eugene Onegin. Mae wedi arwain yn rheolaidd i West Green House Opera ers 2000, yn fwyaf diweddar Ariadne auf Naxos, The Marriage of Figaro, Un ballo in maschera, Candide Bernstein a A Little Night Music Sondheim. Yn 2016 fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Cerdd Opera Canolbarth Cymru lle’r arweiniodd Eugene Onegin, The Magic Flute a Semele. Yn ogystal ag arwain, mae Jonathan wedi creu oddeutu ugain darn o offeryniaeth ostyngedig o operâu sydd bellach yn cael eu perfformio’n eang ledled Ewrop, Asia, UDA a Chanada.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.