Laurence Kempton

Bywgraffiad

Astudiodd Laurence Kempton y ffidil gyda Maurice Hasson yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Gadawodd i ymuno â Cherddorfa Ffilharmonig y BBC a chafodd brofiadau anhygoel yn chwarae yn y Proms ac yn mwynhau llawer o deithiau rhyngwladol cyn dod yn aelod o Gerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru. Mae wedi perfformio llawer o goncertos fel unawdydd, gan gynnwys gwaith Bach, Vivaldi, Mozart, Beethoven, Mendelssohn a Bruch mewn lleoliadau gan gynnwys y Royal Festival Hall yn Llundain. Ers 1996, mae Laurence yn aelod o’r Enigma Duo gyda’r delynores Gymreig Katherine Thomas. Mae’r ddau yn perfformio ledled y byd yn ogystal â chyngherddau lu yn y wlad hon.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.