
Yn wreiddiol o Gernyw, mae Peter wedi graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Conservatoire Brenhinol Birmingham. Mae ei brofiad chwarae hyd yma yn cynnwys y Royal Ballet Sinfonia, Orchestra of the Swan a Cherddorfa Gŵyl Chipping Campden, gyda pherfformiadau ledled y Deyrnas Unedig ac Ewrop, gan gynnwys perfformio fel rhan o ddigwyddiad rownd derfynol Cwpan Rygbi’r Byd 2023 ym Mharis. Ef hefyd yw deiliad presennol y gadair drombôn bas gyda Band Pres Cenedlaethol Pencampwyr Prydain Fawr, sef y Flowers Brass Band. Yn ogystal â’i berfformiadau llawrydd, mae Peter yn addysgwr cerddoriaeth sy’n gweithio gydag ysgolion a phrosiectau o amgylch Swydd Gaerloyw a Swydd Henffordd.