Philip Smith

Bywgraffiad

Ar ôl gweithio fel Sŵolegydd a Syrfëwr Dyfrgwn Cenedlaethol Lloegr am gyfnod, rhoddodd Philip ei esgidiau pysgota o’r neilltu i astudio canu, yn gyntaf yn Ysgol Gerddoriaeth Birmingham ac yna yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd. Mae gwaith operatig diweddar Philip wedi cynnwys prif rannau gyda’r Tŷ Opera Brenhinol yn The Globe, Maggio Musicale Fiorentino, Teatro Petruzzelli di Bari, Opera Cenedlaethol Gwlad Pŵyl ac Opera Cenedlaethol Cymru. Mae ei rannau diweddar eraill wedi cynnwys rhan deitl Don Giovanni a Count Almaviva Le Nozze di Figaro (Celebrate Voice Salisbury), Giorgio yn y premier Eidaleg o sioe gerdd Sondheim Passion, Sharpless Madame Butterfly (Diva Opera), Figaro Barber of Seville (Opera Project) a Rambaldo La Rondine (West Green House Opera).

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.