Robyn Lyn Evans

Tenor

Bywgraffiad

Daw’r tenor Robyn Lyn Evans yn wreiddiol o Bont-rhyd-y-groes yng Ngheredigion, ond mae bellach yn byw ym Machynlleth. Graddiodd o Goleg y Drindod Caerfyrddin lle dyfarnwyd iddo ysgoloriaeth Stuart Burrows ac o’r Coleg Cerdd Brenhinol, Llundain.

Dechreuodd ganu yn eisteddfodau Cymru ac ymysg ei lwyddiannau mae Canwr Ifanc Rhyngwladol y Flwyddyn Llangollen, Gwobr Goffa Osborne Roberts, Rhuban Glas Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan a Gwobr Goffa David Ellis.
Mae ei rannau operatig yn cynnwys Rodolfo (La Bohème), Cavaradossi (Tosca), Don José (Carmen), Alfredo (La Traviata), Il Duca (Rigoletto), Macduff (Macbeth), Lensky (Eugene Onegin), Ismaele (Nabucco), Don Ottavio (Don Giovanni), Pinkerton (Madam Butterfly), Rinuccio (Gianni Schicchi), Fenton (Falstaff) and Nemorino (L’elisir d’amore) i gwmnïau opera cenedlaethol a theithiol.

Fe’i clywir yn aml mewn cyngherddau ac mae wedi rhyddhau dwy record ar ei ben ei hun: ROBYN LYN…tenor a Robyn Lyn Evans Tenor Ah! mes amis.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.