Robyn Lyn Evans

Bywgraffiad

Daw’r tenor Robyn Lyn Evans o Bont-rhyd-y-groes, Ceredigion, ond bellach yn byw ym Machynlleth. Graddiodd o Goleg y Drindod Caerfyrddin lle dyfarnwyd iddo ysgoloriaeth Stuart Burrows ac o’r Coleg Cerdd Brenhinol, Llundain. Dechreuodd ganu yn eisteddfodau Cymru â’i lwyddiannau’n cynnwys Canwr Ifanc Rhyngwladol y Flwyddyn Llangollen, Gwobr Goffa Osborne Roberts a Gwobr Goffa David Ellis. Mae wedi perfformio’n aml mewn cyngherddau a recordio i OCC a gwelwyd ef yn rôl Lensky Eugene Onegin yn 2018. Mae’n falch iawn o gael perfformio rôl Luigi am y tro cyntaf ac yn edrych ymlaen at berfformio Rodolfo La bohème i OCC yn 2022.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.