Magwyd y tenor Robyn Lyn Evans ym Mhont-rhyd-y-groes, Ceredigion, ond mae bellach yn byw ym Machynlleth gyda’i deulu ifanc. Graddiodd o Goleg y Drindod Caerfyrddin lle cafodd fwrsariaeth Stuart Burrows ac o’r Coleg Cerdd Brenhinol, Llundain. Dechreuodd Robyn ganu mewn Eisteddfodau ac mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys Canwr Ifanc Rhyngwladol y Flwyddyn Llangollen, Gwobr Goffa Osborne Roberts a Gwobr Goffa David Ellis. Mae ei rannau blaenorol i OCC yn cynnwys Lensky Eugene Onegin, Luigi Il Tabarro, Macduff Macbeth a Canio Pagliacci. I eraill mae ei rannau diweddar yn cynnwys Don José Carmen, Il Duca Rigoletto ac Alfredo La Traviata. Mae’n falch iawn o gael canu ar dir ‘cartref’ yng Nghastell Powis unwaith eto.
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…