Robyn Lyn Evans

tenor

Bywgraffiad

Magwyd y tenor Robyn Lyn Evans ym Mhont-rhyd-y-groes, Ceredigion, ond mae bellach yn byw ym Machynlleth. Graddiodd o Goleg y Drindod Caerfyrddin lle dyfarnwyd bwrsariaeth Stuart Burrows iddo ac yna o’r Royal College of Music, Llundain. Dechreuodd Robyn ganu mewn Eisteddfodau ac mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys Canwr Ifanc Rhyngwladol y Flwyddyn Llangollen, Gwobr Goffa Osborne Roberts a Gwobr Goffa David Ellis. Mae ymddangosiadau blaenorol i OCC yn cynnwys Lensky Eugene Onegin, Luigi Il tabarro, Rodolfo La bohème a galâu opera di-ri. Mae’n falch iawn o gael y cyfle i ganu Macduff i Opera Canolbarth Cymru ac i ddychwelyd i’w gwmni opera ‘lleol’!

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.