Astudiodd Steffan Lloyd Owen yn y Royal Northern College of Music and Drama, Manceinion. Mae ei wobrau yn cynnwys Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts 2018 a Gwobr Goffa Osborne Roberts – Y Rhuban Glas 2016. Ymysg ei rolau mae Sciarrone /Jailer Tosca (Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen), Brundibar Brundibar (Opera Cenedlaethol Cymru), Lord Hate-Good Pilgrim’s Progress, Ser Amantio Di Nicolao Gianni Schicchi a George Jones Street Scene (RNCM), Y Brenin Cyfrinach y Brenin, Zaretsky Eugene Onegin ac El Dancairo Carmen (Opra Cymru). Mae ei gyngherddau diweddar yn cynnwys Mozart Requiem yn Rennes o dan arweiniad Grant Llewellyn (L’Orchestre National de Bretagne).