Stephanie Windsor-Lewis

Mezzo-soprano

Bywgraffiad

Treuliodd y fezzo-soprano Brydeinig Stephanie Windsor-Lewis hanner cyntaf ei gyrfa yn yr Eidal lle canodd brif rolau yn y Teatro Comunale di Bologna, Teatro del Maggio Musicale Fiorentino, Biennale di Venezia a Teatro Donizetti di Bergamo. Cyn hynny bu’n astudio yn y RCM.

Mae gwaith Stephanie yn y Deyrnas Unedig wedi cynnwys Suzuki Madama Butterfly a Rosmira Partenope (English National Opera), 9fed Symffoni Beethoven (Barbican Centre gyda cherddorfa’r Royal Philharmonic), a Messiah Handel, Requiem Mozart a Gloria Vivaldi (Royal Albert Hall). Ymysg ei gwaith arall mae cyngerdd gyda José Carreras yn Singapore a Sinfonia Berio ar gyfer Lucerne Festival gyda Pierre Boulez. Yn ddiweddar canodd ran Brigitta Die Tote Stadt (Longborough Festival Opera) ac yn 2023 canodd ran Maddalena Rigoletto (Diva Opera). Mae ei rhannau blaenorol ar gyfer Opera Canolbarth Cymru yn cynnwys Larina Eugene Onegin a La Frugola Il tabarro.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.