Cynhyrchiad LlwyfannauAgored OCC Venus & Adonis gan John Blow

Mae Venus & Adonis yn cael ei ohirio

Trist ofnadwy yw gorfod cyhoeddi bod y cynhyrchiad LlwyfannauAgored o Venus and Adonis, a gynlluniwyd ar gyfer y Pasg, wedi ei ohirio tan y gellir ei ail-drefnu yn nes ymlaen oherwydd COVID-19.

Ar ddiwedd wythnos ysbrydoledig o gyfansoddi ac ymarfer gyda chantorion a cherddorion proffesiynol, amatur a myfyrwyr, ymunwch â chwmni LlwyfannauAgored Opera Canolbarth Cymru ar gyfer dau berfformiad cyhoeddus wedi eu llwyfannu’n llawn o gampwaith Blow’s, Venus & Adonis yn Eglwys Sant Andras, Llanandras.

Mae OCC yn gwmni opera teithiol proffesiynol, sy’n llwyfannu dau brif gynhyrchiad ym mhob cwr o Gymru bob blwyddyn yn ogystal â phrosiectau ymgysylltu yng nghymunedau Cymru a’r Gororau.

Bydd ein cynhyrchiad LlwyfannauAgored o Venus & Adonis dros y Pasg yn cael ei arwain gan Gyfarwyddwr Cerdd OCC Jonathan Lyness a’r Cyfarwyddwr Artistig OCC Richard Studer.

Ym mhob ystyr y rhagredegydd yw Venus & Adonis Blow i’r gorchestwaith ei ddisgybl Purcell. Cyfansoddwyd yn 1683 a sgoriwyd am linynnau a recorders, mae’r opera yn cynnwys cast o giwpidau bach, bugeiliaid, helwyr a llyswyr.

Ym mhob ystyr y rhagredegydd yw Venus & Adonis Blow i’r gorchestwaith ei ddisgybl Purcell. Cyfansoddwyd yn 1683 a sgoriwyd am linynnau a recorders, mae’r opera yn cynnwys cast o giwpidau bach, bugeiliaid, helwyr a llyswyr. Mae’r opera’n adrodd hanes Venus, duwies Cariad, sy’n ceisio denu Adonis. Bugeiliol, erotig, comig a thrasig, mae Venus and Adonis Blow yn ymdriniaeth ar natur cariad a cholled.

Hyd 60 munud

Eglwys Sant Andras, Llanandras

Dyddiad i'w gadarnhau
Photos from OpenStages production 2019

Dido & Aeneas

Haus Musik @
Llety’r Barnwr

Noswaith sy’n torri rheolau’r profiad cerddorol clasurol byw.
Mae Cwmni LlwyfannauAgored Opera Canolbarth Cymru’n meddiannu lleoliad eiconig Llety’r Barnwr, Llanandras am y noson..

Ewch am dro drwy’r adeilad gyda diod a chanapé, a dewch o hyd i hapdrysorau cerddorol hyfryd, o Bach yn y seler i Offenbach yn ystafell y llys.

  • Dyddiad i’w gadarnhau

Cynhelir y digwyddiad er budd prosiectau ymgysylltu OCC (www.midwalesopera.co.uk) a Llety’r Barnwr (www.judgeslodging.org.uk). Rhan o wythnos breswyl Opera Canolbarth Cymru yn Eglwys Sant Andras.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.