Amdanom ni

Datganiad adolygiad y buddsoddiad

“Rydym wedi ein siomi’n enbyd ac wedi dychryn o glywed y newyddion bod Cyngor Celfyddydau Cymru – ar ôl 35 mlynedd o lwyfannu operâu nodedig ar hyd a lled Cymru – wedi penderfynu peidio â chynnig cyllid amlflwydd inni. Yn amlwg byddwn yn ystyried ein camau nesaf dros yr wythnosau nesaf. Does dim dwywaith y bydd hyn yn ergyd i’r artistiaid ifanc sy’n cael cyfleodd amhrisiadwy i ddatblygu eu gyrfaoedd gyda ni, ac i’r cynulleidfaoedd mewn trefi a chymunedau gwledig lle mae cyfleoedd i weld opera fyw yn hynod brin.

Fodd bynnag, nid yw’r penderfyniad hwn yn effeithio’n uniongyrchol ar ein cynlluniau cyffrous ar gyfer yr ychydig fisoedd nesaf, sydd wedi eu hariannu’n llawn. Edrychwn ymlaen at groesawu cynulleidfaoedd o Abermo i’r Feni ac o Aberdaugleddau i Fangor i’n perfformiadau o ‘Beatrice and Benedict’ Berlioz (o 13 Hydref i 10 Tachwedd) ac o Macbeth ym mis Chwefror a mis Mawrth 2024″

Gareth Williams
Cadeirydd OCC
27 Medi 2023

Dylid anfon ymholiadau gan y cyfryngau i marketing@midwalesopera.co.uk

Mae cryn newid wedi bod ers sefydlu’r cwmni yn 1989, pan fyddai ein setiau cyntaf yn cael eu cludo mewn trelar tractor ar gyfer perfformiad yng Nghanolfan Gymunedol Meifod. Y dyddiau hyn rydym yn gwmni teithiol gyda chast a cherddorfa o 25 ar gyfartaledd – ond â’n gwreiddiau’n gadarn yng Nghanolbarth Cymru o hyd ac yn ymroddedig i ddod ag opera fyw i theatrau dros Gymru a’r Gororau.

Rydym ni’n defnyddio tryc yn hytrach na thractor erbyn hyn, ond mae rhai pethau’n dal ‘run fath! Cychwynnodd stori Opera Canolbarth Cymru gyda gwaith Keith Darlington, Pennaeth Ysgol Gerddoriaeth Birmingham a’r hyfforddwr lleisiol Barbara McGuire. Roedd ein perfformiad cyntaf yn ganlyniad pythefnos o hyfforddiant i gymysgfa o gantorion o Ganolbarth Cymru a myfyrwyr ysgolion Cerddoriaeth. Pery cefnogi cantorion ifanc yn un o egwyddorion craidd y cwmni heddiw – gan fod hanner ein cast yn gantorion o dan 30 oed a/neu wedi cwblhau eu hyfforddiant ers llai na phedair blynedd.

Elfen arall sydd wedi bod rhan gyson o’n hanes yw ein presenoldeb sefydlog yn Theatr Hafren, y Drenewydd. Ers y perfformiad cyflawn o The Magic Flute yn 1989, mae ein sioeau wedi agor yn Theatr Hafren ac mae’n gartref inni o hyd. Rydym hefyd wedi cael cefnogaeth o’r cychwyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru; fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl hebddynt ac rydym yn falch iawn o gael cyllid refeniw CCC.

Rydym wedi taclo popeth o Aida Verdi i gynhyrchiad cymunedol teithiol o Noye’s Fludde Britten, a gweithio gyda Chyfarwyddwyr gan gynnwys Jonathan Miller, Stephen Medcalf a Martin Lloyd-Evans i enwi dim ond rhai. Rydym wedi cynhyrchu dwy opera Faróc, Acis and Galatea a Semele Handel, gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen at bartneriaethau eraill gydag ysgolion cerddoriaeth yn y dyfodol.

Artistiaid Ifanc

Mae Opera Canolbarth Cymru’n ymroddedig i gyflwyno profiad real a sylweddol i artistiaid ifanc sy’n perfformio, gydag o leiaf 50% o gantorion y cwmni o dan 30 oed neu wedi gorffen eu haddysg o fewn y 4 blynedd ddiwethaf.

Rydym yn gwybod o brofiad bod y gwaith a wnawn a’r cymorth y gall ein Cyfarwyddwyr Artistig ei gynnig drwy’r ymarferion a’r broses o deithio wneud gwahaniaeth anferthol i berfformwyr wrth iddynt ddatblygu eu gyrfaoedd.

“Mae fy ngallu i gyfleu gwahanol gymeriadau’n gorfforol a lliwiau lleisiol, o fewn cerddoriaeth agos at ei gilydd hyd yn oed, wedi tyfu. Mae fy ngallu i fod yn rhan gref o ddrama’r olygfa a pharhau i gynnal y llais yn dda ar yr un pryd wedi gwella’n fawr hefyd.

Roedd yn ardderchog gweithio gyda Chyfarwyddwyr OCC! Roedden nhw’n gadael i chi ddod â’ch syniadau a’ch creadigrwydd eich hun i’r rôl, a byddem yn datblygu ac yn mowldio’r rôl i’r cynnyrch terfynol.”

– William Wallace, Tamino, The Magic Flute 2017

Cyfarwyddwyr Artistig

Ymunodd Richard Studer a Jonathan Lyness ag Opera Canolbarth Cymru yn 2016.

“Mae gweithio gydag OCC fel Cyfarwyddwr Artistig, cwmni y mae eu credoau craidd mor debyg i fy rhai fy hun, yn fraint. Ein huchelgais yw ymestyn model teithio traddodiadol y cwmni er mwyn dod â llwyfaniadau proffesiynol a phrofiadau opera i neuaddau pentref, ysgolion, theatrau cymunedol a gwyliau ledled Cymru a’r Gororau.

Rydym wrth ein boddau ein bod yn cael datblygu ar enw da OCC o deithio Prif Lwyfan, gan ddod ag egni newydd a phartneriaethau creadigol newydd i’n cynyrchiadau cyflawn.

Mae’r brwdfrydedd gan y cymunedau y mae OCC yn eu gwasanaethu, hyd yn oed yn ein camau cyntaf, wedi bod yn heintus ac rydym yn edrych ymlaen at ddyfodol y cwmni eithriadol hwn.”

Y Bwrdd

Rydym ni’n ffodus dros ben ein bod yn cael ein rheoli gan Fwrdd Ymddiriedolwyr cryf ac ymroddedig sy’n rhannu ein cariad at opera – yn ogystal â dealltwriaeth fanwl o reoli elusen, a phryder gwirioneddol ynglŷn â sicrhau bod ein gwaith yn parhau’n uchel ei ansawdd, yn hygyrch ac â chysylltiad dwfn i’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.