Pagliacci / Clowns

Taith yr Hydref 2024

Noson gyntaf: Gwener 25 Hydref Ystafelloedd Cynull Llwydlo
Perfformiad olaf: Gwener 22 Tachwedd 2024, Hafren Y Drenewydd

Mae Opera Canolbarth Cymru yn ôl ar daith yn yr hydref eleni gydag opera ias a chyffro enwog Leoncavallo ‘Pagliacci’, neu ‘Clowns ‘. Mae Canio, arweinydd grŵp teithiol o actorion comedi, yn darganfod bod ei wraig Nedda yn cael perthynas. Ond cyn darganfod pa ddyn, rhaid iddo fynd ar y llwyfan a chwarae rhan… gŵr anobeithiol y mae ei wraig yn twyllo arno. Daw’r perfformiad i ben gyda’r realiti’n cael ei gymylu’n frawychus nes bod y llinell rhwng y perfformiad llwyfan a bywyd go iawn yn aneglur ac yn dychryn y gynulleidfa sy’n gwylio. Mae Pagliacci, sy’n llawn cerddoriaeth syfrdanol, yn dal gafael yn ei statws cwlt fel y ‘ddrama-o-fewn-drama‘ operatig eithaf.

Mae cynhyrchiad newydd Opera Canolbarth Cymru yn cynnwys cast o 5 canwr a 5 cerddor, gyda chyfieithiad Saesneg newydd gan Richard Studer, a threfniant siambr newydd gan Jonathan Lyness. Fel gyda LlwyfannauLlai, bydd yr opera yn digwydd yn hanner cyntaf y noson yn unig. Bydd yr ail hanner yn cynnwys cabaret newydd o eitemau cerddorol poblogaidd a difyr sy’n cynnwys yr holl gantorion a’r cerddorion i’r gynulleidfa gael noson i’w chofio.

 Ar werth cyn hir*

*Dolennau coch isod ar werth nawr.

Maw 29 HydCanolfan Celfyddydau Taliesin, Abertawe
Mer 30 HydTheatr Gwaun, Abergwaun
Maw 5 TachEglwys St Andras, Llanandras gyda Mid Border Arts
Gwe 8 TachNeuadd Goffa Cricieth
Iau 14 TachTheatr-y-Ddraig, Abermaw

Hyd:
Hanner cyntaf 55 mun
Ail hanner 40 munud

Cerddoriaeth a Libretto Ruggero Leoncavallo
Cyfieithiad Saesneg Richard Studer
Trefniant Siambr Jonathan Lyness

Cyfarwyddwr/Cynllunydd Richard Studer
Cyfarwyddwr Cerdd Jonathan Lyness

 

Cantorion

Canio: Robyn Lyn Evans
Nedda: Elin Pritchard
Tonio: Philip Smith
Peppe: Sam Marston
Silvio: Johnny Herford

 

Offerynwyr

Feiolin: Elenid Owen
Sielo: Nicola Pearce
Clarinét: Peryn Clement-Evans
Telyn: Elfair Grug

 

Blog

Help get Mid Wales Opera back on the road

Help get Mid Wales Opera back on the road

Only a few months ago we thought Mid Wales Opera was finished. Now, thanks to a funding lifeline from Powys County Council, we are within touching distance of having a sustainable plan to keep on producing live and local opera across Wales for at least three years.

… or find out more

You have Successfully Subscribed!