Angharad Kathy Davies

soprano

Bywgraffiad

Graddiodd y soprano Angharad Kathy Davies (www.angharadkathydavies.co.uk) o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru lle cafodd gefnogaeth hael Sefydliad Mosawi, Sefydliad Winship, Ymddiriedolaeth Addysg Mario Lanza ac Ymddiriedolaeth Elusennol Hartsheath.

Mae Angharad yn paratoi ar hyn o bryd ar gyfer rhan Susanna yn The Marriage of Figaro gyda Somerset Opera (Gorffennaf 2019) ac yn edrych ymlaen hefyd at berfformio Deuawd Flodau Delibes fel artist gwadd gyda’r RAF Massed Voluntary Bands yn Symphony Hall, Birmingham. Ymysg ei huchafbwyntiau eraill diweddar roedd perfformio yng Nghorws Tosca Puccini yn rhan o ŵyl Abu Dhabi gyda Syr Bryn Terfel.

Bydd Angharad yn perfformio rhan y Bugail yn Tosca gydag Opera Gogledd Cymru ym mis Hydref 2019.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.