Ganed Charne yn Llundain a hyfforddodd yn yr Academi Gerdd Frenhinol, gyda chefnogaeth hael yr MBF a Chymdeithas Foyle. Cafodd ei wneud yn gydymaith yr Academi Gerdd Frenhinol yn ddiweddar. Ymysg y rhannau a chwaraewyd ganddo mae
Eisenstein Die Fledermaus (RPO), Lyonel Martha (Volksoper Zürich), Canio I Pagliacci (Opera de Baugé) Cavaradossi Tosca (Gŵyl Bermuda), Gŵr Arfog 1af /2il Offeiriad Die Zauberflöte (GFO, GTO ac ON) a Bacchus/Tenor Ariadne auf Naxos (The Mastersingers). Gydag Opera Deithiol Lloegr mae ei rannau’n cynnwys Luigi Il Tabarro, Adorno Simon Boccanegra ac Achilles yn eu cynhyrchiad o King Priam a enillodd wobr Olivier. Dychwelodd at Opera Deithiol Lloegr ar gyfer yr adfywiad o Il Tabarro yn 2018. Yn 2005, ymddangosodd Charne yn ei ffilm gyntaf yng Ngŵyl Ffilmiau Fenis fel yr 2il Swyddog yn y fersiwn sinematig o the Magic Flute a gyfarwyddwyd gan Kenneth Branagh. Mae rhannau’r dyfodol yn cynnwys Almeric Iolantha (Opera Holland Park) ac 8fed Symffoni Mahler yn Bridgewater Hall.
Only a few months ago we thought Mid Wales Opera was finished. Now, thanks to a funding lifeline from Powys County Council, we are within touching distance of having a sustainable plan to keep on producing live and local opera across Wales for at least three years.