Tosca Puccini

Taith y Gwanwyn 2019

Perfformiadau yn y gorffennol

Nos Wener 23 ChwefrorHafren, Y Drenewydd
Nos Fercher 27 ChwefrorFfwrnes, Llanelli
Nos Iau 14 MawrthPontio, Bangor
Nos Sadwrn 16 MawrthCourtyard, Henffordd
Nos Fercher 20 MawrthTheatr-y-Torch, Aberdaugleddau
Nos Sul 24ain MawrthTheatr Clwyd, Yr Wyddgrug
Nos Fercher 27 MawrthGlan-yr-Afon, Casnewydd

Mae grym ac angerdd yn gwrthdaro yng nghampwaith syfrdanol Puccini Tosca. Wedi eu dal mewn brwydr bywyd a marwolaeth yn erbyn y pennaeth heddlu llwgr Scarpia, mae’r brif gantores, Tosca a’i chariad, yr artist, yn wynebu’r aberth eithaf.

Ymunwch ag OCC ar eu taith y gwanwyn hwn, wrth i gerddoriaeth fawreddog Puccini arwain cynulleidfaoedd drwy ystod o emosiynau, o stori garu dyner drwy greulondeb grymus i’r drychineb eithaf.

 

Dewch i ymuno ag Opera Canolbarth Cymru

Rydym ni’n edrych am gantorion brwdfrydig i ymuno â’r cwmni ar gyfer y Te Deum ar ddiwedd Act Un, un o’r golygfeydd mwyaf ysblennydd mewn opera. Er mwyn cofrestru, ewch i'r dudalen Corws Cymunedol

Cast

Tosca: Elin Pritchard
Cavaradossi: Charne Rochford
Scarpia: Nicholas Folwell
Spoletta: Jonathan Cooke
Sacristan: Emyr Wyn Jones
Angelotti: Joseph Padfield
Sciarrone/Ceidwad Carchar : Matthew Tilley
Bachgen y bugail : Alys Roberts

Cerddorfa

Ensemble Cymru

Hyd perfformiad: Dwy awr a hanner gyda dwy egwyl
Cerddoriaeth gan: Giacomo Puccini
Libreto: Luigi Illica & Giuseppe Giacosa
Cyfieithiad: Amanda Holden
Cenir mewn: Saesneg
Arweinydd: Jonathan Lyness
Cyfarwyddwr/Cynllunydd: Richard Studer
Cynllunydd Goleuo: Dan Saggars

Tîm Creadigol

Richard Studer

Cyfarwyddwr/Cynllunydd

Dan Saggars

Cynllunydd Goleuo

Cast

Charne Rochford

Mario Cavaradossi

Nicholas Folwell

Baron Scarpia

Emyr Wyn Jones

bas-bariton

Joseph Padfield

Cesare Angelotti

Matthew Tilley

Sciarrone/Ceidwad Carchar

Crynodeb

ACT I

Tu mewn i Eglwys Sant'Andrea della Valle, Rhufain

Mae Angelotti, cyn-gonswl Gweriniaeth Barthenopeaidd Naples, wedi ei garcharu yng Nghastel Sant’ Angelo gan y Brenhinwyr sy’n ffyddlon i Frenhines Naples o dan ei phrif swyddog heddlu, y Barwn Scarpia. Mae chwaer Angelotti, yr Ardalyddes Attavanti, wedi ei gynorthwyo i ddianc a llochesu yng nghapel ei theulu mewn cuddwisg a ddarparodd ar ei gyfer. Mae Mario Cavaradossi, peintiwr sy’n gweithio ar lun o Mair Magdalen, sydd wedi ei fodelu ar fenyw y mae’r Sacristan yn ei hadnabod fel ymwelydd diweddar i’r capel, yr Ardalyddes ei hun. Gwêl Cavaradossi debygrwydd yn y darlun i’r Ardalyddes a’i gariad, y soprano o fri Floria Tosca. Daw Angelotti o’i guddfan ac adnabod Cavaradossi fel hen gyfaill. Mae Cavaradossi’n addo i’w helpu i ddianc ond torrir ar ei draws gan Tosca sy’n galw ei enw o du allan i’r eglwys. Mae Angelotti’n cuddio eto, a daw Tosca i mewn, yn llawn amheuaeth a chenfigen oherwydd y sïon. Tawelir ei phryderon ac maent yn canu cân am eu cariad tuag at ei gilydd. Gwneir cynllun i gyfarfod y noson honno, ac mae Tosca’n gadael. Mae Cavaradossi’n helpu Angelotti i gynllunio i ddianc o Rufain pan dorrir ar eu traws gan glec canon: arwydd ei bod yn hysbys ei fod ar goll o Castel Sant’Angelo. Penderfyna Cavaradossi guddio Angelotti yn ei fila ei hun y tu allan i Rufain.

Dim ond newydd adael y mae’r ddau pan ddaw’r Sacristan yn ôl, wedi ei gyffroi gan y newyddion (ffug fel y mae’n digwydd) bod Napoleon wedi ei drechu. Mae’n synnu o weld nad yw Cavaradossi yno mwyach. Dechreua’r paratoadau ar gyfer y Te Deum difrifol i ddathlu buddugoliaeth Brenhinwr dros y Ffrancwyr a’r Weriniaeth. Yn sydyn, cyrhaedda Scarpia. Mae’n dod o hyd i ffan gydag arfbais Attavanti arni, sy’n profi bod Angelotti wedi bod yn cuddio yn yr eglwys. Dyweda’r Sacristan wrtho fod basged fwyd Cavaradossi bellach yn wag, sy’n arwydd bod y peintiwr wedi helpu’r ffoadur i ddianc. Daw Tosca yn ei hôl i ddweud wrth Cavaradossi y bydd ymrwymiad newydd, canu cantata i Frenhines Naples yn y Palazzo Farnese fel rhan o ddathliadau’r fuddugoliaeth, yn ei hatal rhag ei gyfarfod y noson honno. Tannir ei chenfigen eto gan ei absenoldeb o’r eglwys. Cynyddir hyn gan Scarpia sy’n dangos ffan yr Ardalyddes iddi, a’i thwyllo i gredu bod Cavaradossi’n ei bradychu. Mae hi’n cychwyn am ei fila, gan ofni y bydd hi’n ei weld gyda’r Ardalyddes. Mae Spoletta, asiant Scarpia, yn ei dilyn yn gyfrinachol. Wrth i’r Te Deum gychwyn, caiff Scarpia fflach o ysbrydoliaeth; bydd yn rhoi diwedd ar Cavaradossi ar y crocbren ac, ar yr un pryd, yn gorfodi Tosca i ildio iddo.

ACT II

Rhandai Scarpia

Eistedda Scarpia gyda’i swper yn mwynhau meddwl am ei gynllun. Chwaraeir gafót yn rhywle yn y palas, lle mae dathliadau’r Frenhines ar eu hanterth. Daw asiantau Scarpia â Cavaradossi i mewn i gael ei gwestiynu, dros geinciau’r cantana a genir gan Tosca. Mae Cavaradossi’n gwadu ei fod yn gwybod lle mae Angelotti. Cyrhaedda Tosca (mewn ymateb i nodyn yr oedd Scarpia wedi ei anfon iddi’n gynharach). Eir â Cavaradossi i’r ystafell drws nesaf a’i arteithio’n ddifrifol mewn ymgais i’w berswadio i fradychu cuddfan Angelotti. Nid yw Tosca’n medru goddef sŵn ei lefau o boen ac mae hi’n ildio, gan ddatgelu i Scarpia bod Angelotti’n cuddio yn y ffynnon yn yr ardd yn fila Cavaradossi. Mae Scarpia’n gorchymyn bod yr artaith yn dod i ben a deuir â Cavaradossi i mewn, yn dioddef yn ddifrifol o’i anafiadau. Daw newydd am fuddugoliaeth Napoleon ym Marengo, ac mae Cavaradossi’n dod ato’i hun ddigon i fynegi ei lawenydd. Mae hyn yn ddigon i warantu ei farwolaeth ac eir ag ef i ffwrdd i gael ei ddienyddio. Mae Tosca yn erfyn ar Scarpia am drugaredd, a daw Spoletta a mwy o newydd: daethpwyd o hyd i Angelotti, ond ar eiliad ei arestiad, lladdodd ei hun.

Dyweda Scarpia wrth Tosca mai ei chariad fydd yn marw nesaf oni bai ei bod hi’n fodlon rhoi ei chymwynasau’n gyfnewid am ei fywyd. Cytuna Tosca i’r fargen a dyweda Scarpia wrth Spoletta am drefnu ffug-ddienyddiad, ond defnyddia neges gudd (“Just Like Palmieri”) i ddangos y dylai’r dienyddiad ddigwydd go iawn. Mae Spoletta’n gadael. Mae Scarpia’n llofnodi gwarant ar gyfer triniaeth ddiogel i Tosca a Cavaradossi, ond wrth iddo wedyn droi i’w chofleidio, mae hi’n gafael mewn cyllell oddi ar y bwrdd swper ac yn ei ladd.

ACT III

Castel Sant'Angelo

Mae’n gynnar yn y bore a chlywir clychau’r eglwys dros Rufain. Deuir â Cavaradossi i fyny o’i gell, ac mae Tosca ar ei feddwl wrth i’r diwedd nesáu. Mae hi’n cyrraedd, ar ôl gadael y Palas heb gael ei gweld, ac mae hi’n dweud wrth Cavaradossi bod Scarpia wedi trefnu ffug ddienyddiad cyn iddi hi ei ladd. Rhaid i Cavaradossi gymryd arno ei fod yn marw yn y ffiwsilâd, ac aros iddi ddod i ddweud wrtho ei bod yn ddiogel iddo fynd. Breuddwydia Tosca a Cavaradossi am eu dyfodol hapus gyda’i gilydd. Mae’r milwyr wedyn yn ymddangos ac yn cynnal y dienyddiad. Ar ôl i’r fintai saethu adael, dyweda Tosca wrth Cavaradossi am godi, ond nid yw’n ateb. O ddarganfod ei fod yn farw mae hi’n sylweddoli ei bod wedi ei bradychu. Clywa wŷr Scarpia’n dod ar ei hôl (maent wedi dod o hyd i gorff Scarpia) ac mae Spoletta’n brysio i’w harestio. Mae popeth wedi ei golli ac mae Tosca’n lladd ei hun.

Blog

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.