
Roedd Dafydd yn Artist Cyswllt Opera Cenedlaethol Cymru yn 2022/23 ac astudiodd yn y Coleg Cerdd Brenhinol gan raddio gyda rhagoriaeth yn ei radd Meistr Perfformio. Ymhlith ei uchafbwyntiau diweddar mae Don José La Tragédie de Carmen (Wexford Festival Opera), La Rose L’isola d’Alcina (Bampton Classical Opera), Alfred wrth gefn Die Fledermaus (The Grange Festival), Steuerman wrth gefn The Flying Dutchman (Opera Cenedlaethol Cymru) ac Offeiriad Cyntaf/Dyn Arfog Cyntaf The Magic Flute (West Green Opera House). Mae rhannau eraill gyda WNO yn cynnwys Stronjek The Makropulos Affair, yr Asiant Blaze of Glory a’r Capten/Troseddwr Candide. Yn ddiweddar ar gyfer OCC: Asasin a Malcolm wrth gefn Macbeth.