
Am bedair blynedd ar hugain, roedd Elenid yn aelod o Bedwarawd Llinynnol Ludwig ym Mharis, gan berfformio dros 1500 o gyngherddau a dosbarthiadau meistr ledled y byd a recordio 20 CD ar gyfer labeli Naxos, Naïve ac Universal. Fe’i gwnaed yn “Chevalier de l’Ordre des Arts et Lettres” gan Weinyddiaeth Diwylliant Ffrainc am ei chyfraniad i gerddoriaeth yn Ffrainc. Symudodd yn ôl i Gymru gyda’i theulu yn 2014 er mwyn sicrhau addysg Gymraeg i’w phlant. Fel prif feiolinydd gydag Ensemble Cymru a chyda OCC, mae hi bellach yn mwynhau gweithio ar ei liwt ei hun gyda gwahanol ensemblau ac yn dysgu perfformio ffidil a cherddoriaeth siambr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.