Dyfarnwyd gradd meistr i Elfair yn RNCM, Manceinion, ar ôl iddi ennill gradd BMus yn y coleg fel sgolor ABRSM. Mae Elfair yn mwynhau gyrfa amrywiol fel telynores broffesiynol; gan ryddhau ei halbwm unigol cyntaf gyda recordiau SAIN, teithio gyda CLOUDS Harp Quartet, a gweithio ar ei liwt ei hun gyda cherddorfeydd. Yn 2016, daeth Elfair yn ôl i Brydain ar ôl cyfnod yn Bangkok, lle’r oedd yn gweithio fel athrawes delyn a thelynores breswyl yng Nghanolfan Delyn Tamnak Prathom. Gwaith Elfair fel artist Live Music Now! sydd wedi arwain at ei brwdfrydedd i weithio fel ymarferydd cerdd mewn lleoliadau iechyd, gan ddod â cherddoriaeth o’r neuadd gyngerdd i amgylcheddau mwy heriol a mwy agos-atoch. Mae Elfair yn byw yn ardal Manceinion, ac yn ystod yr Haf yma, bydd hi’n canolbwyntio ar lawnsio ‘Irlam Music Centre’ ac ehangu ei gwaith fel athrawes telyn a mentor. Perfformiodd yng nghynyrchiadau blaenorol OCC o L’heure espagnole, Il tabarro ac Pagliacci.
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…