Elfair Grug

Bywgraffiad

Dyfarnwyd i Elfair ei gradd meistr yn RNCM ym Manceinion, ar ôl ennill gradd BMus yn yr ysgol Gerddoriaeth fel Ysgolor ABRSM. Mae Elfair wedi cychwyn ar yrfa broffesiynol fel telynores; gan ryddhau ei halbwm gyntaf gyda recordiau SAIN, mynd ar daith gyda CLOUDS Harp Quartet, a gweithio ar ei liwt ei hun gyda cherddorfeydd. Yn 2016, daeth Elfair yn ôl i Brydain ar ôl cyfnod yn Bangkok, lle’r oedd yn gweithio fel athrawes delyn a thelynores breswyl yng Nghanolfan Delyn Tamnak Prathom. Gwaith Elfair fel artist Live Music Now! sydd wedi arwain at ei brwdfrydedd at weithio fel ymarferydd cerdd mewn lleoliadau iechyd, gan ddod â cherddoriaeth o’r neuadd gyngerdd i leoliadau heriol a chlyd.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.