Emyr Lloyd Jones

bariton

Bywgraffiad

Magwyd Emyr Jones, 22, ger Caernarfon yng Ngogledd Cymru ac mae’n astudio gyda Quentin Hayes yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd. Enillodd Emyr Wobr Elsie Thurston, Gwobr James Martin Oncken a Gwobr Joyce Budd ac ysgoloriaeth Cymdeithas Kathleen Ferrier i Gantorion Ifanc.

Mae wedi perfformio yng nghorws opera Coleg Cerdd Brenhinol y Gogledd mewn cynyrchiadau o Theodora Handel, Cendrillon Massenet a Hansel and Gretel Humperdinck, ac yn fwyaf diweddar, perfformiodd ran Pinellino yn Gianni Schicchi Puccini ac Obstinate yn The Pilgrim’s Progress Vaughan Williams. Yn ystod haf 2018, ymddangosodd Emyr yn Buxton Festival Opera mewn perfformiad a lwyfannwyd yn rhannol o Tisbe Brescianello gyda La Serenissima.

Mae Emyr yn mwynhau cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac wedi dod yn fuddugol yn yr Unawd Bariton, yr Unawd Werin a’r Ddeuawd Opera yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.