
Mae’r bariton o Gymru, John Ieuan Jones yn un o raddedigion yr RNCM. Mae ei rolau diweddar yn cynnwys Papageno The Magic Flute (Wild Arts), Maximilian Candide (WNO) a’r prif fariton yn The Butterfly House (Clonter Opera). Yn gynharach eleni aeth ar daith gydag Opera Teithiol Lloegr, gan berfformio fel Theo yn The Vanishing Forest, yn ddirprwy actor fel cymeriad Capellio yn I Capuleti e i Montecchi, a bu’n cyfarwyddo eu prosiectau allgymorth. Yn ddiweddar bu’n canu rhan Fossoyeur, yn Hamlet yng Ngŵyl Ryngwladol Buxton. Gwnaeth Ieuan ei ymddangosiad cyntaf yn y Theatr Genedlaethol yn The Corn is Green a theithiodd o amgylch y Deyrnas Unedig yn y West End Musicals gyda’r London Concertante. Ar hyn o bryd mae’n rhan o dîm gweithdai ysgolion OCC. Oddi ar y llwyfan, mae’n mwynhau crwydro bryniau Cymru ar ei feic modur. Yn flaenorol ar gyfer OCC: Claudio Beatrice & Benedict.