Hyfforddodd y baritôn John Ieuan Jones, yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd, ac mae wedi gweithio gyda rhai o brif gwmnïau opera’r DU.
Mae ei lais cyfoethog a’i bersonoliaeth gynnes yn ei wneud yn berfformiwr poblogaidd ar y platfform cyngerdd, ac wedi perfformio ledled y DU, yn Ewrop ag UDA. Ymhlith yr uchafbwyntiau diweddar mae Gala Opera yn Neuadd Bridgewater, ei ymddangosiad cyntaf yn y Royal Albert Hall yng Ngŵyl Corau Meibion Cymru yn Llundain, cael bod yn unawdydd gwâdd yng Ngŵyl Cymru Gogledd America yn Washington DC a rhannodd lwyfan gyda Syr Bryn Terfel yng Nghanolfan y Mileniwm, yng nghyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bae Caerdydd 2018.