Jonathan Lyness

Bywgraffiad

Yn enedigol o Lundain, astudiodd Jonathan gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bryste ac yn ddiweddarach astudiodd arweinyddiaeth gyda George Hurst. Ef yw Cyfarwyddwr Cerdd Opera Canolbarth Cymru (OCC), Artist Cyswllt Longborough Festival Opera (LFO), Cyfarwyddwr Cerdd Ludlow Orchestra a Chyfarwyddwr Cerdd Opera Project (OP), a gyd-sefydlodd ym 1993. Yn ddiweddar mae Jonathan wedi arwain The Barber of Seville i OP, cylch Janácek (Jenůfa, Katya Kabanova a The Cunning Little Vixen) i LFO a La Rondine, Ariadne auf Naxos a Candide i West Green House Opera. I OCC: The Magic Flute, Semele, Eugene Onegin, Tosca, Dido and Aeneas, La Bohème a Le Nozze di Figaro. Caiff ei offeryniaeth ostyngedig o nifer o operâu eu perfformio’n helaeth ledled y byd a chyhoeddwyd ei drefniant o The Bear Walton, a berfformir gan OCC, gan OUP ac fe’i ffilmiwyd yn ddiweddar gan Opera Holland Park.

Subscribe / Tanysgrifiwch

MWO news delivered straight to your inbox / Newyddion OCC wedi'u dosbarthu’n syth i chi

We need to confirm your email address. To complete the subscription process, please click the link in the email we just sent you.