Jonathan Lyness

Cyfarwyddwr Cerdd

Bywgraffiad

Astudiodd Jonathan gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bryste ac yn ddiweddarach astudiodd arweinyddiaeth gyda George Hurst. Ef yw Cyfarwyddwr Cerdd Opera Canolbarth Cymru, Artist Cysylltiol Longborough Festival Opera a Chyfarwyddwr Cerdd Opera Project, a gydsefydlodd yn 1993. Ymysg ei waith arwain diweddar mae The Barber of Seville i OP, cylch Janáček, Jenufa, Katya Kabanová a The Cunning Little Vixen i LFO, Ariadne auf Naxos and Candide i West Green House Opera a’r Ffliwt Hud, Eugene Onegin a Tosca i OCC. Perfformir ei offeryniaeth ostyngedig o operâu ledled y byd a bydd ei drefniant o The Bear Walton, a berfformiwyd ar daith LlwyfannauLlai OCC, yn cael ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Rhydychen.